![]() |
![]() ![]() ![]() |
Sleeve Notes (in Welsh)
Dyma record newydd YR HENNESSYS, y grwp enwog o GAERDYDD. Cymerodd y grwp eu henw oddi wrth Frank Hennessy, y gitarydd, ac fel mae ei enw yn awgrymu, mae'n hanu o dras Gwyddelig, fel ei ddau gyfaill. Bu'n canu ar hyd tafarndai Caerdydd fel aelod o grwp pop cyn uno a'i ddai gyfaill, hwythau cyn hynnu wedi dilyn yr un cylchoedd fel cantorion gwerin. Er bod y tri aelod yn canu ar brydiau y prif ganwr, sydd hefyd yn chwarae mandolin, yw DAVE BURNS a fu cyn troi'n broffesiynol yn gweitho mewn swyddfa. Er bod gan y trydydd aelod PAUL POWELL enw sy'n swnio'n fwy Cymraeg naV ddau arall, mae ei wreiddiau yntau yn yr YNYS WERDO, Paul sy'n chwarae'r banjo a chyn mentro broffesiynol roedd yn gweithio fel peintiwr.
Yn naturiol maer tri yn canolbwyntio ar y canu Gwyddelig ac yn yr Iwerddon maent yn boblogaidd aruthrol ond fel rhan o'u rhaglen mae y grwp yn canu nifer o ganeuon Cymraeg. Mae galw mawr wedi bod am record o'r Hennessys yn canu yn Gymraeg a rydym yn sicr cewch eich mwynhau wrth wrando ar y record newydd hon.